Cym | Eng

Featured

Rhowch fwy o amser i blant chwarae ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae

Date

29.05.2024

Category

Featured

Archwiliwch

I nodi’r Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf erioed ar 11 Mehefin 2024, fe wnaeth IPA Cymru Wales a Chwarae Cymru galw ar ysgolion ledled y wlad i warchod amser chwarae. Gyda’n gilydd, fe ofynnom i ysgolion roi amser ychwanegol i bob plentyn chwarae, er enghraifft drwy wneud amser cinio yn hirach neu drwy ddarparu amser chwarae ychwanegol.

Mae gan blant hawl i gael amser a lle i chwarae fel rhan o’r diwrnod ysgol. Dywed plant fod amser chwarae yn rhan bwysig o’r diwrnod ysgol, ond nid yw ysgolion yng Nghymru yn blaenoriaethu amser chwarae bob amser. Gofynnodd Chwarae Cymru gwestiynau am amser chwarae fel rhan o Arolwg Omnibws Plant Cymru (2022). Dyma’r hyn a ganfuwyd:

  • dywedodd 98% o’r plant eu bod yn edrych ymlaen at amser chwarae yn yr ysgol.
  • dywedodd 82% eu bod yn arbennig o hoff o amser chwarae gan ei fod yn caniatáu iddyn nhw dreulio amser gyda’u ffrindiau.
  • dywed 61% o blant eu bod wedi methu amser chwarae. Y rhesymau mwyaf cyffredin am hyn yw er mwyn dal i fyny â’u gwaith neu oherwydd bod athro yn teimlo eu bod wedi camymddwyn.

Mabwysiadodd y Cenhedloedd Unedig y Diwrnod Rhyngwladol Chwarae blynyddol er mwyn cydnabod hawl plant i chwarae a’i bwysigrwydd i’w lles. Mae’r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd chwarae ac i ymgyrchu dros sicrhau bod chwarae’n cael ei werthfawrogi ym mhob agwedd ar fywydau plant.

Rhagor o wybodaeth am Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors