Archwiliwch
Mae Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru, Jane Bryant AS wedi cyhoeddi adolygiad a diweddariad o’r cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar.
Mae’r adroddiad yn amlinellu cynnydd Llywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael â thair thema allweddol ar draws y sectorau gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar, ers cyhoeddi’r cynllun yn 2017. Mae hefyd yn asesu a yw’r themâu’n dal yn berthnasol, a pha gamau y bydd yn cymryd ymlaen hyd at 2027. Y themâu yw:
- Denu recriwtiaid newydd o ansawdd uchel
- Codi safonau a sgiliau
- Buddsoddi mewn meithrin gallu a galluogrwydd.
Mae’r adroddiad cynnydd yn amlygu’r gwaith a wnaed gyda Chwarae Cymru a Chyngor Addysg a Hyfforddiant Gwaith Chwarae Cymru (PETC Cymru) i ddatblygu cymwysterau gwaith chwarae allweddol – megis y Dyfarniad Lefel 2 mewn Arfer Gwaith Chwarae (L2APP), a’r Level 3 Gwaith Chwarae: Egwyddorion ar waith (P3).
Mae hefyd yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i barhau i ddatblygu’r gweithlu gwaith chwarae. Mae hyn yn cynnwys sefydlu Fframwaith Gwaith Teg Gofal Plant a Gwaith Chwarae Partneriaeth Gymdeithasol i ystyried materion allweddol – megis recriwtio, cadw, datblygiad proffesiynol parhaus.