Archwiliwch
Mae’r cwmni datblygu tai, Redrow, wedi lansio adroddiad ymchwil newydd yn ymwneud â chwarae yn yr awyr agored, o’r enw Breaking the Grass Ceiling: The Second Annual Community Play Report.
Mae’r adroddiad yn tynnu ar ganfyddiadau arolwg o dros 2,000 o rieni, neiniau a theidiau a phobl ifanc, a oedd â’r nod o ddeall y rhwystrau y mae teuluoedd yn eu hwynebu o ran chwarae a chael mynediad at fyd natur. Mae’n dangos bod plant yn parhau i chwarae yn yr awyr agored am ddau draean o amser yn llai, ar gyfartaledd, na chenhedlaeth eu rhieni.
Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod dau o bob pum rhiant yn credu y bydd diffyg ymdeimlad o antur gan eu plant (40%), bydd ganddynt iechyd meddwl gwaeth (34%) a mwy o bryder cymdeithasol (28%) o ganlyniad i ddiffyg chwarae yn yr awyr agored.
Mae adroddiad Redrow yn nodi ymrwymiad y cwmni i fynd i’r afael â’r dirywiad mewn chwarae awyr agored drwy ymgorffori natur a mynediad i fannau gwyrdd yn ei holl ddatblygiadau. Wedi’i gynhyrchu mewn partneriaeth ag arbenigwyr chwarae gan gynnwys yr Athro Helen Dodd, mae hefyd wedi’i gynllunio i helpu i ysbrydoli ac annog pobl i chwarae allan ym myd natur dros wyliau’r ysgol.