Cym | Eng

Newyddion

Merched cyn oed ysgol yn chwarae allan ym myd natur yn llai na bechgyn, yn ôl arolwg

Date

22.10.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae canlyniadau arolwg cyntaf Prydain o chwarae mewn plant cyn oed ysgol wedi canfod bod merched o ddwy oed ymlaen yn chwarae allan ym myd natur yn llai na bechgyn.

Arweiniwyd yr ymchwil ar y cyd gan yr Athro Helen Dodd (Ysgol Feddygol Prifysgol Caerwysg), a Dr Kathryn Hesketh (Uned Epidemioleg Cyngor Ymchwil Feddygol, Prifysgol Caergrawnt).

Arolygwyd mwy na 1,100 o rieni plant dwy i bedair oed sy’n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’r canlyniadau’n amlygu anghydraddoldebau mewn chwarae rhwng merched a bechgyn, hyd yn oed yn y grŵp oedran ieuengaf – rhywbeth y mae’r ymchwilwyr yn ei ddweud a allai roi iechyd merched dan anfantais.

Dywedodd yr Athro Dodd:

‘Mae gan chwarae ym myd natur fanteision iechyd corfforol a meddyliol pwysig i bob plentyn.

‘Gall problemau godi os nad yw plant wedi cael digon o gyfle i chwarae’n anturus ac i ddysgu am reoli teimladau o ansicrwydd a phryder mewn ffordd chwareus. Os ydyn nhw wedi cael digon o gyfle i ddysgu am y teimladau a’r emosiynau hyn trwy eu chwarae, efallai y byddan nhw’n llai tebygol o ymateb yn negyddol a theimlo wedi’u llethu wrth wynebu heriau fel dechrau’r ysgol am y tro cyntaf.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors