Cym | Eng

Newyddion

Adroddiad o arolwg trigolion yn tynnu sylw at effaith gadarnhaol strydoedd chwarae

Date

02.01.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Playing Out wedi cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau ei Playing Out Resident Survey, sy’n amlygu buddion strydoedd chwarae i blant a chymunedau.

Derbyniodd yr arolwg bob dwy flynedd, a gynhaliwyd ym mis Hydref 2023, 116 o ymatebion gan drefnwyr strydoedd chwarae ledled y DU, gan gynnwys Caerdydd.

Mae canfyddiadau allweddol sy’n dangos effaith gadarnhaol strydoedd chwarae ar iechyd a lles plant a chymunedau yn cynnwys:

  • Teimlai 72% o drigolion fod plant yn fwy egnïol yn gorfforol o ganlyniad i gymryd rhan mewn strydoedd chwarae
  • Dywedodd 78% o drigolion fod strydoedd chwarae wedi effeithio’n gadarnhaol ar iechyd corfforol eu plant neu’r plant ar eu stryd
  • Dywedodd 80% o drigolion fod strydoedd chwarae wedi effeithio’n gadarnhaol ar iechyd meddwl eu plant neu’r plant ar eu stryd
  • Dywedodd 91% o drigolion fod sesiynau strydoedd chwarae wedi cael effaith gadarnhaol ar hyder cymdeithasol eu plant neu’r plant ar eu stryd.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth gefndir am ble mae chwarae stryd wedi digwydd, y rhwystrau i strydoedd chwarae. Mae hefyd yn cynnwys sylwadau gan ymatebwyr ar y gefnogaeth a dderbyniwyd gan sefydliadau fel Chwarae Cymru i helpu sesiynau i ddigwydd.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors