Cym | Eng

Newyddion

Chwarae a lles – cyhoeddi crynodeb yr adolygiad

Date

25.01.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Chwarae Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o Chwarae a lles, cyhoeddiad a fydd ar gael yn fuan. Wedi ei gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, mae’n adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru.

Mae’r adolygiad llenyddol, a gomisiynwyd gan Chwarae Cymru, yn archwilio’r cysylltiadau rhwng digonolrwydd cyfleoedd chwarae a lles plant. Mae’n tynnu’n bennaf ar ymchwil academaidd, ar draws ystod o ddisgyblaethau, ond mae hefyd yn tynnu ar lenyddiaeth broffesiynol, eiriolaeth ac ymarferydd ble fo’n briodol. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion i chwarae plant.

Mae’r crynodeb yn cynnwys gwybodaeth am:

  • gwmpas ac arddull yr adolygiad
  • trosolwg a darganfyddiadau o bob un o benodau’r adolygiad
  • cynnig yr awduron am ddull galluogrwydd perthynol tuag at les plant drwy gamau gweithredu i greu amodau sy’n cefnogi chwarae
  • sylwadau clo ar atebolrwydd oedolion am chwarae plant.

Cwblhawyd yr adolygiad 10 mlynedd ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a thra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ei Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth yn hysbysu’r gwaith parhaus hwn.

Mae’r crynodeb yn dilyn cyhoeddi papur briffio i gyflwyno’r adolygiad llenyddol. Byddwn yn cyhoeddi’r adolygiad llenyddol llawn yn ddiweddarach eleni.

Lawrlwytho Chwarae a lles – crynodeb

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors