Archwiliwch
Mae Chwarae Cymru wedi cyhoeddi crynodeb o Chwarae a lles, cyhoeddiad a fydd ar gael yn fuan. Wedi ei gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, mae’n adolygiad o ymchwil diweddar i chwarae plant, polisi cymdeithasol ac ymarfer, gyda ffocws ar Gymru.
Mae’r adolygiad llenyddol, a gomisiynwyd gan Chwarae Cymru, yn archwilio’r cysylltiadau rhwng digonolrwydd cyfleoedd chwarae a lles plant. Mae’n tynnu’n bennaf ar ymchwil academaidd, ar draws ystod o ddisgyblaethau, ond mae hefyd yn tynnu ar lenyddiaeth broffesiynol, eiriolaeth ac ymarferydd ble fo’n briodol. Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion i chwarae plant.
Mae’r crynodeb yn cynnwys gwybodaeth am:
- gwmpas ac arddull yr adolygiad
- trosolwg a darganfyddiadau o bob un o benodau’r adolygiad
- cynnig yr awduron am ddull galluogrwydd perthynol tuag at les plant drwy gamau gweithredu i greu amodau sy’n cefnogi chwarae
- sylwadau clo ar atebolrwydd oedolion am chwarae plant.
Cwblhawyd yr adolygiad 10 mlynedd ers cychwyn y Ddyletswydd Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae a thra bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ei Adolygiad Gweinidogol o Chwarae. Bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn yr adolygiad llenyddiaeth yn hysbysu’r gwaith parhaus hwn.
Mae’r crynodeb yn dilyn cyhoeddi papur briffio i gyflwyno’r adolygiad llenyddol. Byddwn yn cyhoeddi’r adolygiad llenyddol llawn yn ddiweddarach eleni.
Lawrlwytho Chwarae a lles – crynodeb