Archwiliwch
Mae ein hadolygiad llenyddiaeth, Chwarae a lles bellach ar gael i’w archebu mewn print – yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae’r cyhoeddiad yn darparu adolygiad cynhwysfawr o ymchwil diweddar i chwarae, polisi cymdeithasol ac ymarfer plant, gyda ffocws ar Gymru.
Wedi’i gynnal gan Dr Wendy Russell, gyda Mike Barclay a Ben Tawil o Ludicology, Mae Chwarae a lles yn canolbwyntio ar rôl chwarae mewn lles plant, patrymau chwarae plant, a chefnogaeth oedolion ar gyfer chwarae plant.
Cyhoeddwyd yr adolygiad llenyddol – a gomisiynwyd gan Chwarae Cymru – ym mis Tachwedd 2024.
Y gost am bob copi print yw £49.50 gan gynnwys cost postio yn y DU. Cysylltwch â ni ar gyfer archebion y tu allan i’r DU.
I archebu Chwarae a lles, llenwch y ffurflen hon: