Archwiliwch
Mae Play Scotland wedi lansio ymgyrch i ddathlu a chodi ymwybyddiaeth o’r proffesiwn gwaith chwarae.
Mae’r ymgyrch yn ceisio tynnu sylw at arwyddocâd gwaith chwarae o ran hyrwyddo datblygiad, lles plant a phwysigrwydd chwarae. Ei nod yw ychwanegu ‘playworker’ a ‘playwork’ at eiriadur Caergrawnt drwy annog defnydd o’r geiriau ar-lein ac mewn print.
Mae’r ymgyrch yn galw ar weithwyr chwarae a’r rhai sydd â phrofiad o waith chwarae i rannu eu straeon, cyfrannu erthyglau blog ac amlygu gwaith y maent wedi’i gyhoeddi.