Archwiliwch
Mae Parc Arfordirol Penrhos yng Nghaergybi ar Ynys Môn wedi cael ei ddewis fel hoff barc y DU mewn pleidlais genedlaethol a gynhaliwyd yr haf hwn gan Fields in Trust.
Dyma’r tro cyntaf i’r prif enillydd gael ei ddewis o Gymru, ar ôl i fwy na 30,000 o bleidleisiau gael eu cyflwyno dros y rhestr fer o 364 o barciau a mannau gwyrdd.
Mae Parc Arfordirol Penrhos yn warchodfa natur 200 erw boblogaidd sy’n cynnwys traethau a llwybrau coetir, gan ddenu tua 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn.
Wrth sôn am y canlyniad, dywedodd Prif Weithredwr Fields in Trust, Helen Griffiths:
‘Mae’n amlwg bod y parc hwn yn lle arbennig iawn i lawer o bobl, ac rydym wrth ein bodd i’w goroni’n swyddogol fel ffefryn y DU.’