Archwiliwch
Cynhaliodd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ei thrydedd Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol ar 6 Mawrth 2024.
Mae’r gwobrau’n dathlu gwaith gweithwyr chwarae, gwirfoddolwyr, rheolwyr, pwyllgorau a chlybiau o bob rhan o Gymru. Rhoddwyd deg gwobr, gan gynnwys Gwobr Gweithiwr Chwarae’r Flwyddyn, a noddir gan Chwarae Cymru.
Enillwyr 2024 yw:
- Hyrwyddwr Iaith Gymraeg: Clwb Ol-Ysgol Gwynedd, Sir y Fflint
- Cefnogi Llesiant Staff: Gofal Plant Flourish Cymru Childcare, Rhondda Cynon Taf
- Gwirfoddolwr y Flwyddyn: Jane Williams, Bwlchgwyn Cabin Crew, Wrecsam
- Dysgwr y Flwyddyn: Bethan Jones, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs
- Hyrwyddwr Chwarae: Tiddlywinks, Castell-nedd Port Talbot
- Gweithiwr Chwarae’r Flwyddyn: Sarah Sharpe, Poppins Day Care, Bro Morgannwg
- Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus: Dylan’s Den, Rhondda Cynon Taf
- Hyrwyddo Amrywedd Cadarnhaol: Dylan’s Den, Rhondda Cynon Taf
- Hyrwyddwyr Cynhwysiant: Child’s Play @ LTD, Abertawe
- Clwb Allysgol y Flwyddyn: Parc Borras, Wrecsam
Roedd y digwyddiad hefyd yn dathlu graddedigion gwaith chwarae 2023 a chyflawnwyr dysgu Cymraeg.