Cym | Eng

Newyddion

Astudiaeth newydd ar effaith agweddau rhieni tuag at risg mewn chwarae

Date

30.01.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae agweddau rhieni tuag at risg mewn chwarae yn cael effaith ar weithgarwch corfforol plant. Mae hyn yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, Psychology of sport and exercise.

Cynhaliwyd yr astudiaeth, Playing it safe: The relationship between parent attitudes to risk and injury, and children’s adventurous play and physical activity, gan ymchwilwyr o Brifysgol Deakin, Awstralia a Phrifysgol Coventry yn y DU. Roedd yn archwilio’r berthynas rhwng agweddau rhieni at risg ac anafiadau, a chwarae anturus a gweithgarwch corfforol cymedrol-i-egnïol (MVPA) dyddiol eu plentyn oed ysgol gynradd.

Gan dynnu ar ymatebion i arolwg gan 645 o rieni a gwarcheidwaid yn Awstralia, datgelodd yr astudiaeth:

  • Roedd gan 78% o rieni oddefgarwch isel o risg pan gyflwynwyd cyfres o senarios chwarae iddynt.
  • Roedd MVPA yn is ymhlith plant yr oedd eu rhieni’n llai goddefgar o risg ac anafiadau.
  • Roedd gan blant rhieni ag agweddau mwy cadarnhaol at risg ac anafiadau chwarae mwy anturus.

Mae canlyniadau’r astudiaeth yn adleisio canfyddiadau y British Children’s Play Survey (BCPS). Amlygodd yr astudiaeth hon, a gynhaliwyd yn 2020, hefyd y berthynas rhwng goddefgarwch rhieni o risg ac ymgysylltiad plant â chwarae llawn risg.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors