Archwiliwch
Mae agweddau rhieni tuag at risg mewn chwarae yn cael effaith ar weithgarwch corfforol plant. Mae hyn yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn, Psychology of sport and exercise.
Cynhaliwyd yr astudiaeth, Playing it safe: The relationship between parent attitudes to risk and injury, and children’s adventurous play and physical activity, gan ymchwilwyr o Brifysgol Deakin, Awstralia a Phrifysgol Coventry yn y DU. Roedd yn archwilio’r berthynas rhwng agweddau rhieni at risg ac anafiadau, a chwarae anturus a gweithgarwch corfforol cymedrol-i-egnïol (MVPA) dyddiol eu plentyn oed ysgol gynradd.
Gan dynnu ar ymatebion i arolwg gan 645 o rieni a gwarcheidwaid yn Awstralia, datgelodd yr astudiaeth:
- Roedd gan 78% o rieni oddefgarwch isel o risg pan gyflwynwyd cyfres o senarios chwarae iddynt.
- Roedd MVPA yn is ymhlith plant yr oedd eu rhieni’n llai goddefgar o risg ac anafiadau.
- Roedd gan blant rhieni ag agweddau mwy cadarnhaol at risg ac anafiadau chwarae mwy anturus.
Mae canlyniadau’r astudiaeth yn adleisio canfyddiadau y British Children’s Play Survey (BCPS). Amlygodd yr astudiaeth hon, a gynhaliwyd yn 2020, hefyd y berthynas rhwng goddefgarwch rhieni o risg ac ymgysylltiad plant â chwarae llawn risg.