Cym | Eng

Newyddion

Taflen wybodaeth newydd am amddifadedd chwarae

Date

27.02.2024

Category

Newyddion

Archwiliwch

Rydym wedi cyhoeddi taflen wybodaeth newydd am amddifadedd chwarae a photensial gwaith chwarae i oresgyn y canlyniadau. Mae wedi’i hanelu at ddarparwyr chwarae, ymchwilwyr chwarae a’r rhai sydd â diddordeb mewn chwarae, iechyd a lles plant.

Wedi’i ysgrifennu gan yr Athro Emeritws Fraser Brown, Mae Amddifadedd chwarae: yr achosion a’r canlyniadau ar gyfer datblygiad plant, a photensial gwaith chwarae yn archwilio ymchwil ar y cysylltiadau rhwng dirywiad mewn cyfleoedd plant i chwarae a materion iechyd meddwl a chymdeithasol cynyddol. Mae’n edrych ar:

  • y cysyniad o amddifadedd chwarae a’i ystyr
  • y berthynas rhwng chwarae a lles meddyliol a datblygiad cymdeithasol plant
  • canlyniadau amddifadedd chwarae
  • effaith gadarnhaol defnyddio dull gwaith chwarae.

Wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol yn 2013, un o’r ychwanegiadau mwyaf defnyddiol i’r fersiwn newydd yw tabl lle mae Fraser yn rhoi crynodeb trylwyr o fanteision chwarae a pheryglon amddifadedd chwarae.

Mae’r daflen wybodaeth yn ymdrin â sbectrwm amddifadedd chwarae – o achosion o esgeuluso ac amddifadedd plant eithafol i’r dylanwadau sy’n effeithio ar chwarae plant yn niwylliant heddiw. Gan dynnu ar ymchwil Fraser ei hun a thystiolaeth arall ar draws y sbectrwm hwn, mae’n trafod sut y gall agwedd gwaith chwarae fynd i’r afael â chanlyniadau negyddol amddifadedd chwarae.

Lawrlwythwch y daflen wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors