Archwiliwch
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes yn gofyn i blant ac arddegwyr 11 i 17 oed wneud cais i ymuno â’i Phanel Ymgynghorol Ieuenctid.
Mae’r Comisiynydd yn awyddus i recriwtio plant sy’n frwd dros hawliau plant a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc yng Nghymru. Rhaid i ymgeiswyr:
- bod yn hyderus i rannu eu syniadau a’u barn gydag eraill
- â diddordeb yn un o’r pynciau canlynol: iechyd meddwl, tlodi, cydraddoldeb, anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Bydd yr aelodau newydd yn rhan o’r Panel Ymgynghorol Ieuenctid ar gyfer 2024. Mae rôl y panel yn cynnwys cefnogi’r Comisiynydd Plant a’i thîm i wneud penderfyniadau, cynnig syniadau ac adborth, a dylanwadu ar bolisi ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.
Mae lle ar y panel yn para am ddwy flynedd a bydd gofyn i aelodau fynychu tri chyfarfod y flwyddyn.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 18 Rhagfyr 2023.