Archwiliwch
Gosodwyd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) gerbron y Senedd ar 20 Mai 2024. Mae’n ymdrin ag ystod o ddiwygiadau i ddeddfwriaeth bresennol ynghylch iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys newidiadau a fydd yn effeithio ar weithwyr chwarae a gweithwyr gofal plant.
Mae’r Bil yn cynnig diwygio Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, i gynnwys gweithwyr gofal plant a gweithwyr chwarae yn y diffiniad o ‘weithiwr gofal cymdeithasol’. Nod y newid hwn yw rhoi mandad clir i Ofal Cymdeithasol Cymru gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â’r gweithlu gofal plant a chwarae.
Bydd y Senedd nawr yn craffu ar Fil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru).