Cym | Eng

News

Safon diogelwch rhyngwladol newydd yn caniatáu cyfleusterau chwarae mwy anturus

Date

19.07.2023

Category

News

Archwiliwch

Bydd safon diogelwch rhyngwladol sydd newydd ei chyhoeddi yn galluogi plant i elwa ar gyfleusterau chwarae a hamdden fwy anturus.

Mae Safon 4980:2023 ‘Benefit-risk assessment for sports and recreational facilities, activities and equipment y Sefydliad Safonau Rhyngwladol (ISO) yn galluogi awdurdodau lleol a darparwyr meysydd chwarae i gymryd agwedd budd-risg wrth ddylunio offer chwarae a rhaglenni i blant.

Yn hytrach na chanolbwyntio ar leihau risg yn unig, mae’r meincnod yn dweud y dylai cynghorau, busnesau, ac eraill gymryd agwedd gytbwys at ddiogelwch mewn meysydd chwarae a chyfleusterau hamdden eraill. Yn hollbwysig, dylent ystyried manteision caniatáu rhywfaint o risg a her.

Mae’r safon newydd wedi’i chroesawu gan yr UK Play Safety Forum, grŵp o arbenigwyr blaenllaw a gefnogodd ddrafftio’r ddogfen.

Dywedodd Tim Gill, Cadeirydd yr UK Play Safety Forum:

‘Mae’r safon diogelwch newydd hon yn gam sy’n newid y gêm i blant, sydd wedi bod ar eu colled ers llawer gormod o amser oherwydd ofnau a phryderon oedolion sydd wedi’u camleoli.’

Dywedodd Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru:

‘Mae’n amlwg bod awydd plant i herio ac ymestyn eu hunain yn bwysig iddyn nhw ac o fudd datblygiadol. Mae’n bwysig ein bod yn darparu amgylchedd i blant sy’n cynnwys her. Mae’r safon ISO newydd hon yn rhoi hwb i ni i gyd gymryd yr hyn, i’w roi yn syml, dull synnwyr cyffredin.’

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors