Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ac wedi’u hadnewyddu ar gyfer y rheini o fewn awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldeb am ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae.
Mae’r canllawiau’n cynnwys:
- Pecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Chwarae diwygiedigu a’r 17 adnodd cysylltiedig
- Templed newydd ar gyfer Crynodeb Gweithredol o’r Asesiad Digonolrwydd Chwarae
- Templed newydd ar gyfer Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae
- Templed newydd ar gyfer Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Gweithredu Cyfleoedd Chwarae
Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio ar fersiwn newydd o’r Canllawiau Statudol, ‘Cymru – Gwlad lle mae cyfle i Chwarae’, gyda’r bwriad o’i chyhoeddi yn gynnar yn 2025.