Archwiliwch
Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs wedi cyhoeddi adroddiad ar ganlyniadau ei Arolwg Clybiau Cenedlaethol (2023) o glybiau gofal plant all-ysgol yng Nghymru.
Mae’r canlyniadau, yn seiliedig ar ymatebion gan 298 o glybiau, yn amlygu budd clybiau gofal plant all-ysgol – megis y cymorth a rhoddir i blant ag anghenion ychwanegol, ac ymrwymiad clybiau i gefnogi’r Gymraeg ac arfer gwrth-hiliaeth. Mae’r canfyddiadau hefyd yn amlygu’r heriau o fewn y sector, gan gynnwys recriwtio a chadw, datblygu’r gweithlu, prinder staff a chostau cynyddol.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno chwe argymhelliad i wella cynaliadwyedd clybiau gofal plant all-ysgol, gan gynnwys cymorth busnes wedi’i deilwra a chyfleoedd hyfforddi a chymwysterau a ariennir.
Dywed Chwarae Cymru:
‘Rydym yn falch o weld canlyniadau’r Arolwg Clybiau Cenedlaethol (2023). Mae’r argymhellion yn yr adroddiad yn cysylltu’n dda gyda’r Adolygiad Gweinidogol o Chwarae, yn enwedig mewn perthynas â chyllid parhaus ar gyfer datblygu’r gweithlu a hyrwyddo gwerth chwarae a gwaith chwarae. Edrychwn ymlaen at ein partneriaeth barhaus gyda Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i weithio tuag at y nodau hyn.’