Cym | Eng

Newyddion

Llacio dros dro ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir

Date

18.01.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhai o’r gofynion yn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol (NMS) ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed yn cael eu llacio dros dro. Mae’r llacio dros dro, oherwydd yr amrywiolyn Omicron, ar waith o 17 Ionawr tan 1 Ebrill 2022.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cytuno y gellir llacio y NMS sy’n cyfeirio at cymarebau staffio mewn lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant, yn ogystal a gofynion cymwysterau staff, dros dro. Rhaid cael cymeradwyaeth yr awdurdod lleol cyn gweithredu unrhyw lacio ar y gymhareb staffio, er mwyn sicrhau bod y newidiadau yn rhesymol ac yn gymesur, a bod modd darparu gofal rheolaidd yng ngoleuni’r amgylchiadau lleol, heb gyfaddawdu ar ddiogelwch a lles y plant y gofelir amdanynt.

Nid yw Llywodraeth Cymru yn llacio unrhyw un o’r rheolau sy’n gysylltiedig â’r gofyniad i ddarparwyr gofal plant gael gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Fodd bynnag, ystyrir bod llacio’r arferion cyfredol/cyffredin sy’n gysylltiedig â gwiriadau cofnodion troseddol manylach, yn briodol o gofio’r angen i sicrhau darpariaeth gofal ddigonol ar gyfer rhieni a gofalwyr sydd ei angen.

Mae’n rhaid rhoi gwybod i Arolygiaeth Gofal Cymru, fel y rheoleiddiwr gwasanaethau gofal plant, am unrhyw newidiadau a wneir.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors