Cym | Eng

Newyddion

IPA Cymru

Date

08.12.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r International Play Association (IPA) yn sefydliad rhyngwladol anllywodraethol a sefydlwyd yn 1961 i warchod, diogelu, a hybu hawl plant i chwarae. Mae gan yr IPA aelodaeth eang ac amrywiol gyda changhennau gweithredol ledled y byd. Mae canghennau’r IPA yn sail ar gyfer rhwydwaith byd-eang ac maent yn cefnogi rhaglenni gwaith a gweithgarwch rhyngwladol yr IPA.

Tan ychydig flynyddoedd yn ôl roedd cangen IPA EWNI (Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon) yn bodoli. Mae ein cyfeillion yn Lloegr a Gogledd Iwerddon bellach wedi sefydlu canghennau yn eu gwledydd eu hunain ac mae Chwarae Cymru’n awyddus i gefnogi’r un broses yma yng Nghymru.

Mae’r IPA yn cydnabod cynrychiolaeth genedlaethol ble mae 10 neu fwy o aelodau’n cytuno i ffurfio cangen. Yn ystod Hydref 2022, galwodd Chwarae Cymru gyfarfod cychwynnol o aelodau yng Nghymru. Cytunodd y cyfarfod yn unfrydol gyda’r bwriad i sefydlu IPA Cymru a chyflwynwyd Cytundeb Cysylltiad i’r IPA.

Yn gynnar ym mis Rhagfyr 2022, fe’n hysbyswyd bod ffurfio IPA Cymru wedi ei gymeradwyo a byddwn yn hyrwyddo aelodaeth yn fuan iawn. Yn y cyfamser, cysyllter â Chwarae Cymru am fwy o wybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors