Archwiliwch
Mae Play England wedi cyhoeddi taflen wybodaeth newydd am iechyd meddwl plant a sut y gall chwarae gefnogi ei welliant.
Mae’r daflen gwybodaeth yn amlygu ystadegau sy’n dangos cynnydd mewn problemau iechyd meddwl mewn plant o ddemograffeg amrywiol megis oedran, ethnigrwydd a chefndir teuluol. Mae hefyd yn egluro sut y gall chwarae ddarparu profiadau dysgu pwysig i blant sy’n cefnogi eu hiechyd meddwl.
Mae’r daflen wybodaeth wedi’i hysgrifennu gan Helen Dodd, Athro Seicoleg Plant yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerwysg ac ymddiriedolwr Play England.