Archwiliwch
Gallai rhoi mynediad at gyfleoedd â chefnogaeth dda i chwarae gyda chyfoedion, megis cylchoedd chwarae, i blant ifanc a allai fod yn agored i broblemau iechyd meddwl fod o fudd sylweddol i’w hiechyd meddwl hir dymor, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caergrawnt.
Canfu astudiaeth bedair blynedd o bron i 1,700 o blant fod y rhai sy’n dangos gwell gallu i chwarae gyda chyfoedion yn dair oed yn gyson yn dangos llai o arwyddion o iechyd meddwl gwael yn ddiweddarach yn eu plentyndod.
Adroddodd ymchwilwyr yn y Play in Education, Development and Learning (PEDAL) Centre yng Nghyfadran Addysg y brifysgol fod plant sy’n chwarae’n dda gydag eraill yn mynd ymlaen i gael llai o orfywiogrwydd, llai o broblemau ymddygiad ac emosiynol yn ôl rieni ac athrawon, a’u bod yn llai tebygol i ymladd neu i anghytuno â phlant eraill.
Rhagor o wybodaeth