Cym | Eng

Newyddion

Helpwch i lunio dyfodol polisi gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru

Date

12.10.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Alma Economics, cwmni ymchwil annibynnol, i gasglu mewnwelediadau gan unigolion sy’n gweithio mewn lleoliadau cofrestredig o fewn y sector gofal plant a gwaith chwarae.

Bydd y cwmni ymchwil yn gwerthfawrogi cyfranogiad gan ymarferwyr gofal plant, gwarchodwyr plant, gweithwyr chwarae, a rheolwyr lleoliadau ar gyfer grwpiau ffocws a chyfweliadau ar-lein. Bydd eich cyfranogiad yn cyfrannu at ddatblygu polisïau a fydd yn cefnogi ac yn siapio’r gweithlu gofal plant a gwaith chwarae yng Nghymru dros y pum mlynedd nesaf.

I gofrestru eich diddordeb mewn cymryd rhan, plîs darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd ar-lein a chwblhewch y ffurflen mynegi diddordeb. Yna bydd aelod o Dîm Ymchwil Alma Economics mewn cysylltiad.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors