Archwiliwch
Heddiw, mae plant ledled Cymru a gweddill y byd yn dathlu’r Diwrnod Rhyngwladol Chwarae cyntaf erioed.
Yma yng Nghymru, mae International Play Asssociation (IPA) Cymru Wales yn cydweithio â Chwarae Cymru ar alwad genedlaethol ar y cyd i ddiogelu amser chwarae mewn ysgolion. Gyda’n gilydd, rydym yn gofyn i ysgolion roi amser ychwanegol i bob plentyn chwarae, er enghraifft, drwy ymestyn yr egwyl ginio neu ddarparu amser chwarae ychwanegol.
Mae chwarae yn ganolog i iechyd a lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol plant. Gall ysgolion wneud cyfraniad sylweddol at iechyd a lles ein plant drwy ddiogelu amser chwarae. Rydym yn galw ar bob ysgol i roi mwy o amser i bob plentyn yng Nghymru chwarae ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae.
Cefnogaeth ar gyfer ysgolion
I nodi Diwrnod Rhyngwladol Chwarae, rydym yn cyhoeddi fersiwn newydd o Ysgol chwarae-gyfeillgar, ein canllaw ar gyfer agwedd ysgol gyfan i gefnogi hawl plant i chwarae.
Mae’r fersiwn wedi ei ddiweddaru wedi ei ddylunio i gyfoethogi’r gwaith da sy’n cael ei wneud eisoes i ddarparu gwell cyfleoedd chwarae mewn ysgolion. Mae’n anelu i wneud amser pawb yn yr ysgol yn hapusach ac yn iachach. Yn ogystal â darparu gwybodaeth yn ymwneud â pholisi, mae’n cynnwys casgliad o adnoddau a thempledi ymarferol i gefnogi ysgolion i roi digonedd o amser, lle a chaniatâd i blant chwarae yn ystod y diwrnod ysgol.
Datblygwyd y canllaw er mwyn ymateb i adroddiad Estyn Iach a hapus – Effaith yr ysgol ar iechyd a llesiant disgyblion, sy’n nodi pwysigrwydd amserau chwarae ac egwyl mewn ysgolion.
Lawrlwytho Ysgol chwarae-gyfeillgar
Amser stori
I ddathlu’r diwrnod arbennig hwn, mae ein llyfr stori, Hwyl ar iard yr ysgol, ar gael ar-lein am gyfnod byr. Mae’r stori am un o rannau pwysicaf y diwrnod ysgol i lawer o blant – amser chwarae. Mae’n anelu i gefnogi plant i wneud yn siŵr bod ganddynt yr hawl i chwarae yn yr ysgol.
Mae’r llyfr stori hwn ar gyfer plant ysgol gynradd a’u rhieni – yn ogystal ag athrawon a staff ysgolion. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i gefnogi pobl sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd.
(Bydd y llyfr stori ar gael ar-lein tan 18 Mehefin)