Cym | Eng

Newyddion

Gwneud gwahaniaeth – adnoddau newydd i gefnogi pobl ifanc i greu newid

Date

11.01.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, wedi lansio adnodd ar-lein i helpu plant a phobl ifanc i gymryd camau gwybodus ar faterion sy’n bwysig iddynt.

Mae Gwneud Gwahaniaeth – canllaw person ifanc i greu newid wedi’i anelu at gefnogi pobl ifanc i brofi eu hawliau fel maen nhw wedi’u nodi yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Rhennir yr adnodd yn bedair rhan:

  • Creu grŵp
  • Cael gwybodaeth
  • Byddwch yn greadigol
  • Codi llais

Mae pecyn gwybodaeth hefyd ar gael ar gyfer oedolion cefnogol fel gweithwyr ieuenctid, athrawon ac arweinwyr grwpiau cymunedol.

Mwy o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors