Archwiliwch
Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes, wedi lansio adnodd ar-lein i helpu plant a phobl ifanc i gymryd camau gwybodus ar faterion sy’n bwysig iddynt.
Mae Gwneud Gwahaniaeth – canllaw person ifanc i greu newid wedi’i anelu at gefnogi pobl ifanc i brofi eu hawliau fel maen nhw wedi’u nodi yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Rhennir yr adnodd yn bedair rhan:
- Creu grŵp
- Cael gwybodaeth
- Byddwch yn greadigol
- Codi llais
Mae pecyn gwybodaeth hefyd ar gael ar gyfer oedolion cefnogol fel gweithwyr ieuenctid, athrawon ac arweinwyr grwpiau cymunedol.