Archwiliwch
Mae’r Gwendoline and Margaret Davies Charity yn cynnig grantiau bach hyd at £2,000 a grantiau mwy hyd at £10,000 i fudiadau yng Nghymru.
Mae’r elusen yn cefnogi amrywiaeth o sefydliadau a phrosiectau sydd o fudd i’r celfyddydau, addysg, iechyd a chymdeithas. Mae buddiolwyr yn cynnwys sefydliadau sy’n hyrwyddo cerddoriaeth a’r celfyddydau, prosiectau mewn cymunedau anghysbell a difreintiedig, a sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i unigolion agored i niwed.
Er mwyn bod yn gymwys am grant rhaid i chi fod yn elusen gofrestredig gyda phresenoldeb yng Nghymru ag incwm o lai nag £1 miliwn. Rhaid i brif fuddiolwyr y grant hefyd fod wedi’u lleoli yng Nghymru.
Mae’r ymddiriedolwyr yn adolygu pob cais sy’n bodloni’r meini prawf cymhwyso yn eu cyfarfodydd deirgwaith y flwyddyn.