Archwiliwch
5 Mai 2022
9.30am – 12.00pm
Digwyddiad RHAD AC AM DDIM
Mae plant yn eu harddegau’n dal i ddweud wrthym bod bod y tu allan yn bwysig iddyn nhw – maen nhw’n gwerthfawrogi cael mannau i chwarae a threulio amser yn ymlacio gyda ffrindiau.
Ond, wrth gynllunio a dylunio gofodau cyhoeddus a mannau chwarae a hamdden dynodedig, mae anghenion plant hŷn i chwarae’r tu allan, cwrdd â ffrindiau a symud o gwmpas yn cael eu hesgeuluso’n aml neu’n derbyn fawr o ystyriaeth.
Mae Chwarae Cymru’n cynnal y weminar hon i rannu arfer dda sy’n berthnasol i gynllunio a dylunio mannau gan ystyried plant yn eu harddegau. Bydd pwyslais ar roi polisi ar waith.
Bydd y siaradwyr yn cynnwys:
- Tim Gill – awdur Urban Playground: How child-friendly planning and design can save cities
- Claire Edwards – ymchwilydd cymdeithasol, lle a chwarae ac ymgynghorydd ar ofod cyhoeddus a’r amgylchedd adeiledig
- Make Space for Girls – mudiad sy’n defnyddio ymchwil, ymgynghori, ymgysylltu ac addysg i eiriol dros barciau a mannau cyhoeddus sy’n groesawus i ferched yn eu harddegau
- Phil Doyle – dylunydd mannau chwarae ac ymgynghorydd a chyd-awdur y llawlyfr Design for Play
- Dr Mike Shooter – Cadeirydd Chwarae Cymru a Seiciatrydd Ymgynghorol Plant wedi ymddeol.
Anelir y weminar hon at: gynllunwyr tref, awdurdodau cynllunio, cynllunwyr a dylunwyr trefol, penseiri, datblygwyr, cymdeithasau tai, rheolwyr parciau, swyddogion iechyd a diogelwch, cynghorau tref a chymuned, swyddogion chwarae, gweithwyr ieuenctid.