Archwiliwch
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) wedi gohirio’r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) nesaf tan fis Ionawr 2023.
Mae AGC wedi cymryd y penderfyniad hwn i leihau rhywfaint o’r pwysau ar y sector ar adeg anodd iawn a rhoi mwy o amser i Arolygiaeth Gofal Cymru baratoi’n iawn ar gyfer y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth nesaf.
Wrth gyhoeddi’r penderfyniad, dywedodd Pennaeth Arolygu Gofal Plant a Chwarae AGC, Kevin Barker:
‘Ein bwriad yw agor y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth i’w gwblhau ar yr un pryd yn y blynyddoedd i ddod – Ionawr yn rhedeg i fis Chwefror. Bydd cadw at amserlen gyson ar gyfer y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn ein galluogi i’w ddatblygu ymhellach i gynnwys mwy o gwestiynau tebyg i “gyfrifiad” gan ystyried data ar gyfer y flwyddyn galendr flaenorol.’