Cym | Eng

Newyddion

Galwad i flaenoriaethu babanod yn ystod yr argyfwng costau byw

Date

10.01.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae’r Grŵp Gweithredu Blynyddoedd Cynnar yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi babanod yn yr argyfwng costau byw a rheoli risgiau hirdymor tlodi i hawliau plant.

Lansiodd y grŵp bapur sefyllfa ym mis Rhagfyr 2022 yn pwysleisio effaith drychinebus pwysau ariannol cynyddol ar deuluoedd. Mae’n galw am fesurau sy’n mynd i’r afael â’r heriau presennol a hirdymor y maent yn eu hwynebu.

Mae’r grŵp yn dadlau bod babanod a phlant ifanc yn arbennig o agored i niwed oherwydd mynediad cyfyngedig i adnoddau ac effaith straen cynyddol ar rieni. Mae’n dweud bod mynediad parhaus at gymorth cynnar i rieni sy’n disgwyl neu rieni newydd yn hanfodol i iechyd a datblygiad hirdymor babanod.

Daw’r alwad mewn ymateb i ymchwil diweddar sy’n dangos bod mwy nag un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a mwy na chwarter yn byw o dan y llinell dlodi. Yn arolwg tlodi diweddar Plant yng Nghymru, nododd 93% o ymarferwyr mai’r cynnydd mewn costau byw oedd y broblem tlodi cysylltiedig uchaf i deuluoedd.

Mae’r Grŵp Gweithredu Blynyddoedd Cynnar yn cynnwys cynrychiolwyr o Achub y Plant, BookTrust Cymru, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Chwarae Cymru, Home Start Cymru, Mudiad Meithrin, Plant yng Nghymru, PACEY Cymru, Nesta ac NSPCC Cymru.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors