Archwiliwch
Mae trefnwyr o Brifysgol Caerdydd yn croesawu cynigion o gyflwyniadau ar gyfer cynhadledd ar ddysgu cyfunol a fydd yn cael ei gynnal ar 16 Chwefror 2023.
Mae ‘Geographies of Blended Learning: Digital, Outdoor and Blended approaches to learning – experiences from Wales, the UK and Internationally’ yn gynhadledd bersonol rhad ac am ddim. Bydd yn archwilio sut mae dysgu cyfunol wedi newid profiadau dysgu, a’r gofodau a’r lleoedd y mae plant a phobl ifanc yn dysgu ynddynt.
Mae’r trefnwyr yn croesawu crynodebau cynigion o 150 gair gan ymarferwyr, academyddion a llunwyr polisi, gan gynnwys arbenigwyr addysgol, y rhai sy’n ymwneud â dylunio cwricwlwm, a’r rhai sy’n cyflwyno addysg ffurfiol ac anffurfiol (er enghraifft athrawon, ymarferwyr dysgu awyr agored), ac ymchwilwyr.
Dyddiad cau ar gyfer anfon cynigion: 22 Rhagfyr 2022.