Cym | Eng

Newyddion

Galwad am bapurau: Play on Early Education

Date

13.01.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae trefnwyr Play on Early Education yn galw am gynigion ar gyfer y gynhadledd nesaf a gynhelir yn Athens, Groeg rhwng 27 a 30 Ebrill 2022.

Gwahoddir cynigion ar gyfer cyflwyniadau gan y rheini sy’n gweithio ym maes chwarae a gwaith chwarae, addysg gynnar, darpariaeth meithrin ney ysgol goedwig sydd â ffocws ar chwarae, dylunwyr mannau chwarae, ac unrhyw un gyda arbenigedd arall neu ddiddordeb mewn chwarae plant.

Rhennir y gynhadledd yn bedair thema, gyda siaradwr gwadd a nifer o bapurau i bob un:

  • Chwarae a’r byd digidol
  • Chwarae ar draws diwylliannau
  • Chwarae gyda risg ac ansicrwydd
  • Sut y gall chwarae siapio ysgolion y dyfodol.

Bydd cyflwynwyr dethol yn derbyn pris cyfranogiad gostynedig ar gyfer y gynhadledd hybrid hon.

Yn ogystal â chyflwyniadau ar gyfer y brif gynhadledd, mae’r trefnwyr yn gwahodd cynigion ar gyfer gweithdai ymarferol ar gyfer cyfranogwyr ar 26 Ebrill 2022. Bydd y gweithdai 45 i 60 munud o hyd yn cynnig syniadau y gellir mynd â hwy yn ôl i leoliadau i gefnogi chwarae plant a’u dysg.

Dyddiad cau ar gyfer anfon cynigion: 31 Ionawr 2022

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors