Archwiliwch
Mae trefnwyr Play on Early Education yn galw am gynigion ar gyfer y gynhadledd nesaf a gynhelir yn Athens, Groeg rhwng 27 a 30 Ebrill 2022.
Gwahoddir cynigion ar gyfer cyflwyniadau gan y rheini sy’n gweithio ym maes chwarae a gwaith chwarae, addysg gynnar, darpariaeth meithrin ney ysgol goedwig sydd â ffocws ar chwarae, dylunwyr mannau chwarae, ac unrhyw un gyda arbenigedd arall neu ddiddordeb mewn chwarae plant.
Rhennir y gynhadledd yn bedair thema, gyda siaradwr gwadd a nifer o bapurau i bob un:
- Chwarae a’r byd digidol
- Chwarae ar draws diwylliannau
- Chwarae gyda risg ac ansicrwydd
- Sut y gall chwarae siapio ysgolion y dyfodol.
Bydd cyflwynwyr dethol yn derbyn pris cyfranogiad gostynedig ar gyfer y gynhadledd hybrid hon.
Yn ogystal â chyflwyniadau ar gyfer y brif gynhadledd, mae’r trefnwyr yn gwahodd cynigion ar gyfer gweithdai ymarferol ar gyfer cyfranogwyr ar 26 Ebrill 2022. Bydd y gweithdai 45 i 60 munud o hyd yn cynnig syniadau y gellir mynd â hwy yn ôl i leoliadau i gefnogi chwarae plant a’u dysg.
Dyddiad cau ar gyfer anfon cynigion: 31 Ionawr 2022