Archwiliwch
Mae Royal Museums Greenwich yn galw am gyflwyniadau ar gyfer ei chynhadledd, Play and Our Changing World, a gynhelir yn y National Maritime Museum, Llundain ar 28 Medi 2023.
Bydd y gynhadledd yn archwilio sut mae digwyddiadau’r byd wedi newid y ffordd mae plant yn chwarae, a beth mae chwarae’n ei olygu yn y gymdeithas heddiw. Ei nod yw dod â phobl ynghyd ar draws y sectorau diwylliannol ac addysg i rannu syniadau ac arfer.
Mae’r trefnwyr yn chwilio am gynigion o gyflwyniadau 20 munud neu weithdai 45 munud sy’n canolbwyntio ar y themâu canlynol:
- Play and equality
- Taking play seriously, the importance of play
- Building on play.
Dyddiad cau ar gyfer anfon cynigion: 3 Ebrill 2023.