Cym | Eng

Newyddion

Galw am weithredu i wella cyfleoedd chwarae i blant anabl

Date

14.03.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mewn cyd-ddatganiad sefyllfa, mae’r Children’s Play Policy Forum a’r UK Play Safety Forum yn galw am weithredu i wella cyfleoedd chwarae i blant anabl yn y DU.

Wedi ei gefnogi gan Chwarae Cymru, PlayBoard Northern Ireland, Play England, Play Scotland a’r Association of Play Industries (API), mae’r datganiad yn galw am fannau chwarae hygyrch a chynhwysol i gynnal hawl ac angen pob plentyn i chwarae.

Mae Cynnwys Plant Anabl mewn Darpariaeth Chwarae yn datgan bod cymdeithas wedi methu â chynhyrchu digon o leoedd hygyrch a chynhwysol i blant chwarae o fewn pellter rhesymol i’w cartrefi. Mae’n ei gwneud yn glir bod:

  • Agwedd bositif sy’n rhoi ffocws ar ddatrysiadau yn allweddol
  • Posib gwneud addasiadau i gynyddu hygyrchedd a chael gwared ar rwystrau i gyfranogiad trwy ymgysylltu â a blaenoriaethu anghenion plant anabl a’u teuluoedd
  • Angen newid agweddau’r cyhoedd ar frys
  • Rhaid creu mannau sy’n fwy croesawgar sy’n gwneud y mwyaf o’r ystod o gyfleoedd sy’n cael eu cynnig gan yr offer a’r amgylchedd.

Mae atodiad sy’n cynnwys tair enghraifft yn cyd-fynd â’r datganiad.

Mae’r datganiad yn anelu i gefnogi’r bobl hynny yn y DU sydd ynghlwm â gwneud cyfleusterau fel gofodau chwarae, meysydd chwarae a meysydd chwarae antur yn fwy hygyrch a chynhwysol. Mae wedi ei anelu at awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol, cymdeithasau tai ac ysgolion, ymysg darparwyr chwarae eraill – yn cynnwys darparwyr preifat (fel tafarndai, parciau gwyliau, meysydd gwersylla, gorsafoedd petrol, parciau thema, sŵau).

Dywedodd Tim Gill, Cadeirydd yr UK Play Safety Forum):

‘Yn union fel unrhyw blentyn, mae pob plentyn anabl angen ac eisiau chwarae. Ond ers degawdau, maent wedi cael gwasanaeth gwael. Mae’r datganiad hwn yn cyflwyno achos pwerus dros newid, tra’n cydnabod yr heriau. Yn bwysicaf oll efallai, mae’n gosod gweledigaeth glir ar gyfer mannau chwarae newydd a gwell a fydd yn ennyn diddordeb plant o bob gallu.’

Ychwanegodd Nicola Butler, Cadeirydd y Children’s Play Policy Forum:

‘Bydd y datganiad hwn yn helpu i feithrin gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau sy’n cadw llawer o blant anabl a’u teuluoedd o fannau chwarae lleol. Bydd goresgyn y rhwystrau hyn yn dod â buddion i blant sydd ddim yn anabl hefyd, wrth iddynt ddysgu trwy ryngweithio ac ymgysylltu â ffrindiau a chyfoedion anabl.’

Dywedodd Marianne Mannello, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Chwarae Cymru ac aelod o grŵp gwaith y datganiad:

‘Mae rhai plant anabl yn wynebu unigrwydd, a chael eu hynysu a’u heithrio. Gallai hyn fod o ganlyniad i amgylchedd sydd wedi ei ddylunio’n wael, agweddau sy’n pwysleisio ein gwahaniaethau neu effeithiau cyflyrau a namau sy’n cyfyngu ar hunan-annibyniaeth a chyfranogaeth. Pan fyddwn yn dylunio mannau sy’n cael pethau’n iawn ar gyfer plant anabl, gall mwy o blant chwarae ochr-yn-ochr, gan ddatblygu gwell dealltwriaeth o’r ystod lawn o alluoedd. Mae’r profiadau cynnar hyn yn siapio ein goddefgarwch a dealltwriaeth o wahaniaeth.

Gobeithiwn bod y datganiad hwn yn cefnogi rhanddeiliaid i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod pob plentyn yn gwneud defnydd da o feysydd a mannau chwarae, gan eu galluogi i elwa o’r holl bethau cadarnhaol mae chwarae yn eu rhoi i blentyndod hapus ac iach.’

Lawrlwytho Cynnwys Plant Anabl mewn Darpariaeth Chwarae

Lawrlwytho Atodiad 1

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors