Cym | Eng

Newyddion

Galw am fannau gwell i chwarae ar Ddiwrnod Chwarae

Date

06.08.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Wrth i Ddiwrnod Chwarae gael ei ddathlu ar hyd a lled y DU, mae sefydliadau chwarae cenedlaethol yn galw am fwy o fannau croesawus a chynhwysol ble gall plant a phobl ifanc o bob oed a gallu chwarae’n rhydd a theimlo’n rhan o’u cymunedau.

Mae thema Diwrnod Chwarae eleni’n pwysleisio pwysigrwydd hanfodol mannau o safon i chwarae sy’n cefnogi hapusrwydd plant a phobl ifanc, a’u hiechyd a’u lles corfforol ac emosiynol, a’u cysylltiad gyda’r byd o’u hamgylch.

Y Diwrnod Chwarae hwn, rydym yn galw am fannau sy’n:

  • Darparu gofodau hygyrch, diogel, a chwareus ble gall plant chwarae’n rhydd yn eu cymuned leol.
  • Cynhwysol a chroesawus i blant a phobl ifanc o bob oed a gallu.
  • Mwyafu’r cyfleoedd ar gyfer chwarae mewn ysgolion, gofal plant, lleoliadau ieuenctid, a mannau cyhoeddus.
  • Cael eu siapio gan leisiau, anghenion, a phrofiadau’r plant a’r bobl ifanc eu hunain.
  • Cefnogi chwarae sy’n hybu hwyl, cyfeillgarwch, bod yn fywiog, mwynhau byd natur, a chreu ymdeimlad cryf o berthyn.
  • Annog teuluoedd, gofalwyr, a chymunedau i ddod ynghyd trwy chwarae ar draws y cenedlaethau.

Rydym yn annog teuluoedd, arweinwyr cymunedol, cynllunwyr, datblygwyr, a phawb sydd â rôl wrth siapio bywydau plant i eiriol dros fannau gwell i chwarae.

Dywedodd Marguerite Hunter Blair, Prif Swyddog Gweithredol, Play Scotland:

‘Mae Diwrnod Chwarae’n ffordd wych i deuluoedd a chymunedau ddod at ei gilydd a dathlu pwysigrwydd chwarae mewn mannau lleol. Mae chwarae’n hwyl ac mae plant wrth eu bodd yn chwarae’r tu allan a chysylltu gyda natur. Mae cael mannau chwarae awyr agored hygyrch ar gyfer pawb wrth galon cymuned iach. Felly, dewch inni gyd gael hyd i le i chwarae yn ein bywydau prysur ar Ddiwrnod Chwarae.’

Ychwanegodd Alan Herron, Prif Swyddog Gweithredol, PlayBoard NI:

‘Mae’n hanfodol bod plant a phobl ifanc yn teimlo bod croeso iddynt yn y mannau ble maent yn tyfu i fyny. Mae cyfleoedd i chwarae’n helpu plant i wneud ffrindiau a chreu perthnasau ar draws cymunedau. Mae mynediad i fannau awyr agored diogel, wedi eu cynnal a’u cadw’n dda, yn amrywio ar draws Gogledd Iwerddon, ac rydym yn dal i eiriol dros gael Strategaeth Chwarae allai drawsnewid cyfleoedd chwarae ar gyfer ein plant a’n pobl ifanc i gyd.’

Meddai Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru:

‘Bydd plant yn dweud wrthym drosodd a throsodd eu bod eisiau mwy o fannau a mannau gwell i chwarae yn eu cymdogaethau. Mae angen inni wrando a chydnabod pwysigrwydd hyn a gwneud rhywbeth amdano drwy roi gofodau o ansawdd da i blant chwarae a chymdeithasu’r tu allan gyda’u ffrindiau. Mae rhaid inni wneud ein cymdogaethau’n fwy croesawus, yn fwy hygyrch ac yn fwy cynhwysol, i blant chwarae, ar Ddiwrnod Chwarae ac ar bob dydd o’r flwyddyn.’

Nododd Eugene Minogue, Cyfarwyddwr Gweithredol Play England:

‘Mae thema Diwrnod Chwarae eleni’n ganolog i’n strategaeth newydd – It All Starts with Play! Mae plant angen gofodau gwell i chwarae – mannau sy’n groesawus, cynhwysol, ac sy’n rhan o fywyd bob dydd. Mae hynny’n golygu gwrando ar blant, dylunio gyda gofal, a chynllunio cymunedau ble mae chwarae’n cael ei dderbyn a’i ddisgwyl. Mae pob plentyn yn haeddu teimlo eu bod yn perthyn, ac mae hynny’n dechrau gyda lle i chwarae.’

Mae gan bob plentyn a pherson ifanc hawl i chwarae. Gyda’n gilydd, gallwn greu byd cynhwysol, mwy chwareus, ble gall pob plentyn dyfu, ffynnu, a pherthyn.

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors