Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau i fudiadau sydd am wella cyfleusterau cymunedol sy’n ddefnyddiol i bobl yn y gymuned, ac yn cael eu defnyddio’n helaeth ganddynt.
Mae grantiau ar gael ar ddwy lefel – grantiau bach dan £25,000 a grantiau mwy o hyd at £300,000.
Mae’r rhaglen yn agored i fudiadau’r sector gwirfoddol a chymunedol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Mae’r Rhaglen yn canolbwyntio ar gynyddu cyfleoedd, sicrhau ffyniant i bawb a datblygu cymunedau cadarn lle mae pobl yn cael eu cynnwys a’u grymuso. Mae disgwyl i bob ymgeisydd weithio gyda phartneriaid a all ddod o’r sector cyhoeddus, preifat neu’r trydydd sector.
Mae’r dyddiadau agor ar gyfer cyflwyno ceisiadau i’r cynllun fel a ganlyn:
- 1 Medi 2025 – ceisiadau yn agor ar gyfer ceisiadau o dan £25,000
- 1 Hydref 2025 – ceisiadau yn agor ar gyfer datganiadau o ddiddordeb ar gyfer ceisiadau mwy, hyd at £300,000
Mae’r Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn gynllun grant cyfalaf yn unig. Mae grantiau ar gael ar gyfer gwella cyfleusterau cymunedol yn ffisegol – gallai hyn gynnwys tir ac adeiladau.