Archwiliwch
Mae ymchwil gan Fields in Trust wedi datgelu bod 28% o blant o dan naw oed yng Nghymru yn byw mwy na 10 munud ar droed o barc – gyda’r nifer yn codi i 31% ar draws Prydain i gyd.
Mae’r canlyniadau’n rhan o ‘Green Space Index’ yr elusen – baromedr blynyddol o ddarpariaeth parciau a mannau gwyrdd sy’n hygyrch i’r cyhoedd ledled Prydain.
Dywed Fields in Trust fod yr ymchwil yn amlygu pryder cynyddol am hygyrchedd meysydd chwarae i blant ym Mhrydain, gyda goblygiadau i iechyd, lles, a gweithgaredd corfforol.