Archwiliwch
** LLAWN **
Os hoffech chi gael eich hychwanegu i restr aros, rhag ofn y bydd lle ar gael, ebostiwch ni os gwelwch yn dda
22 – 23 Mehefin 2022
Rhaeadr, Powys
Mae’r Fforwm Gweithwyr Chwarae yn ddigwyddiad hyfforddiant gwaith chwarae preswyl, deuddydd o hyd dan gynfas sy’n rhoi cyfle i weithwyr chwarae ddysgu oddi wrth ei gilydd a hyfforddwyr gwaith chwarae profiadol.
Pwy ddylai fynychu?
Anelir y digwyddiad at weithwyr chwarae, gweithwyr datblygu chwarae, rheolwyr gwaith chwarae, ymarferwyr ysgolion fforest a gweithwyr gofal plant a phawb sydd am gynyddu eu sgiliau a’u gwybodaeth am waith chwarae, yn enwedig y tu allan.
Prisiau cyfranogwyr
Eleni gallwn gynnig pris gostyngol ar gyfer gweithwyr chwarae sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru.
- Ffi cyfranogwyr o Gymru – £45
- Ffi cyfranogwyr sy’n byw neu sy’n gweithio y tu allan i Gymru – £100
Nodwch – os ydych chi’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, ticiwch flwch ‘Aelod Chwarae Cymru’ i dderbyn y pris gostyngedig
Disgwylir i’r cyfranogwyr wersylla a bydd angen iddynt ddod â’u hoffer gwersylla eu hunain. Darperir diodydd poeth, ciniawau, brecwast a swper.
Mwy o wybodaeth am y lleoliad a’r ardal leol
Lawrlwytho poster y digwyddiad