Cym | Eng

Newyddion

Ymarfer corff ymhlith plant ysgolion uwchradd Cymru yn lleihau, yn ôl arolwg

Date

12.04.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Dim ond 16% o blant oed ysgol uwchradd yng Nghymru sy’n treulio digon o amser yn gwneud ymarfer corff. Mae hyn yn ôl canfyddiadau diweddaraf arolwg a gynhelir bob dwy flynedd gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, a gynhaliwyd rhwng mis Medi 2021 a mis Ionawr 2022.

Canfu’r arolwg, Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion 2021/22, nad oedd dros dri chwarter y plant ac arddegwyr yn bodloni’r canllawiau gweithgaredd corfforol a argymhellir o o leiaf 60 munud y dydd. Mae’r ffigur yn cynrychioli gostyngiad graddol mewn gweithgarwch corfforol o gymharu â chanlyniadau blaenorol a gyhoeddwyd yn 2017 a 2019.

Canfyddiad allweddol arall o’r arolwg yw bod lles meddwl wedi gostwng yn sylweddol ers 2017, gan effeithio’n arbennig ar ferched. Mae cyfran y merched sy’n adrodd am les meddwl isel wedi cynyddu 9.5% ers 2017.

Cymerodd mwy na 123,000 o blant rhwng 11 ac 16 oed ran yn yr arolwg, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2023. Canlyniadau’r arolwg yw’r rhai cyntaf i gael eu casglu ers cyfnod clo COVID-19.

Mwy o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors