Archwiliwch
O Ebrill 2022, bydd Llywodraeth Cymru yn ehangu’r Cynnig Gofal Plant i gynnwys rhieni sy’n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant a rhieni sy’n cymryd absenoldeb mabwysiadu. Ar hyn o bryd, nid yw aelwydydd lle nad yw neb yn gweithio yn gymwys i gael gofal plant a ariennir gan y llywodraeth, ar ben yr hawl i addysg gynnar sydd eisoes ganddynt.
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn darparu hyd at 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant tair a phedair oed.
Dywed y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS:
‘Mae’n wych ein bod yn gallu parhau i ehangu’r Cynnig Gofal Plant i sicrhau y bydd mwy o deuluoedd yn gallu manteisio ar y cynnig. Drwy gynnig rhagor o gymorth gyda chostau gofal plant i rieni sy’n ymgymryd ag addysg a hyfforddiant, daw yn amlwg pa mor bwysig inni yw cefnogi pobl i sicrhau eu bod yn fwy cyflogadwy drwy ennill cymwysterau, ailhyfforddi neu newid eu llwybr gyrfa.’
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi £6 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i godi’r gyfradd fesul awr a delir i ddarparwyr gofal plant o £4.50 i £5 yr awr o fis Ebrill ymlaen. Bydd y cynnydd o 11% hwn yn helpu i sicrhau bod y sector gofal plant yng Nghymru yn fwy cynaliadwy.
At hynny, caiff £3.5 miliwn yn ychwanegol ei fuddsoddi mewn gofal plant Dechrau’n Deg, a defnyddir £1.5 miliwn i gefnogi’r gwaith parhaus o gysoni’r cyfraddau cyllido ar gyfer darpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant o dan y Cynnig Gofal Plant.