Archwiliwch
Mae Gweinidog Blynyddoedd Cynnar Llywodraeth Cymru, Jayne Bryant wedi lansio pecyn cymorth o ganllawiau gyda’r nod o greu diwylliant gwrth-hiliol mewn lleoliadau gwaith chwarae a gofal plant yng Nghymru.
Mae’r pecyn cymorth yn rhoi cyngor clir ac ymarferol i ddarparwyr ar amrywiaeth o bynciau gwrth-hiliol. Bydd y pecyn ar gael i’r rhai sy’n gweithio yn y sectorau chwarae, gofal plant a blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
Fe ddatblygwyd y pecyn cymorth gan gonsortiwm o bum partner chwarae a gofal plant – Cwlwm – a’r Sefydliad Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL).Roedd lleoliadau gofal plant a gwaith chwarae, Llywodraeth Cymru, mentoriaid cymunedol ac amrywiaeth o unigolion â phrofiad bywyd hefyd yn rhan o’i ddatblygiad.
Mae’r pecyn cymorth yn rhoi cyngor ymarferol i leoliadau a staff a gwybodaeth am y camau y gallant eu cymryd i sicrhau bod yr amgylchedd y maent yn ei greu a’r ddarpariaeth y maent yn ei chynnig yn wrth-hiliol.