Cym | Eng

News

Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar – adnoddau newydd

Date

30.06.2023

Category

News

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres newydd o adnoddau, fel rhan o’r dull Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar ar gyfer plant 0-5 oed yng Nghymru.

Nod yr adnoddau yw cefnogi ymarferwyr mewn lleoliadau gofal plant a chwarae ac ysgolion i ddarparu chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar o safon.

Mae’r adnoddau’n cynnwys:

  • Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru
  • Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol
  • Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Llwybrau Datblygu 0 i 3

Mae’r adnoddau i gyd yn cyd-fynd â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru a’r Cwricwlwm i Gymru.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS a Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS:

‘Dylai’r gyfres o ddeunyddiau cymorth sicrhau bod ymarferwyr yn cynnig dulliau chwarae, dysgu a gofal llwyddiannus sy’n llawn gwybodaeth ac yn seiliedig ar dystiolaeth yn ystod plentyndod cynnar a’u helpu i fyfyrio ar eu harferion a’u gwella’n barhaus er mwyn helpu pob baban a phlentyn ifanc i dyfu a datblygu’n well.’

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors