Cym | Eng

Newyddion

Diwrnod Rhyngwladol Chwarae Hapus

Date

10.06.2025

Category

Newyddion

Archwiliwch

Heddiw, mae plant ledled Cymru a gweddill y byd yn dathlu’r Diwrnod Rhyngwladol Chwarae. Mae Chwarae Cymru yn cydweithio â International Play Association (IPA) Cymru Wales ac IPA Japan i ddathlu llawenydd byd-eang chwarae.

Yn ganolbwynt i’n gweithgareddau ar y cyd yw ffilm fer sy’n dangos plant yn chwarae yn y ddwy wlad. Mae’r ffilm yn dangos plant yn chwarae ar draws Cymru a Japan. Mae hefyd yn cynnwys cyfweliadau gyda phlant o bob oed – yn Gymraeg, Saesneg a Japanaeg – yn rhannu’r hyn maen nhw’n ei garu am chwarae.

Mae’r Diwrnod Rhyngwladol Chwarae yn ddathliad byd-eang sy’n pwysleisio pŵer chwarae ym mywydau plant. Mae’r diwrnod, gaiff ei drefnu’n flynyddol gan y Cenhedloedd Unedig, yn cadarnhau hawl pob plentyn i chwarae ac yn hyrwyddo chwarae fel elfen sylfaenol o les, dysg a datblygiad iach. Mae chwarae’n hanfodol, nid yn ddewisol.

Mae’r thema eleni, Dewis Chwarae – Bob Dydd, yn ein hatgoffa’n groyw nad yw chwarae ond ar gyfer un diwrnod, mae’n rhywbeth i’w warchod a’i flaenoriaethu trwy gydol y flwyddyn. Fel y dywed y plant yn y ffilm wrthym, mae chwarae yn ganolog i’w lles a’u hapusrwydd. Dyma pam rydym yn galw ar ysgolion, ysbytai, teuluoedd, a chymdogion / aelodau o’r gymuned i roi digonedd o gyfleoedd i blant o bob oed chwarae, bob dydd.

Dathliad byd-eang

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â IPA Cymru Wales ac IPA Japan, fel rhan o Cymru a Japan 2025, dathliad blwyddyn gron o gysylltiadau diwylliannol ac economaidd rhwng y ddwy wlad.

Dywedodd Marianne Mannello, ysgrifennydd cangen IPA Cymru Wales:

‘2025 yw Blwyddyn Cymru a Japan Llywodraeth Cymru, felly roedd yn ymddangos yn iawn i IPA Cymru Wales gydweithio â changen Japan o’r International Play Association. Roedden ni eisiau i’n cydweithrediad ganolbwyntio ar y plentyn gymaint â phosibl, felly roedden ni wrth ein bodd pan gytunodd IPA Japan i fod yn bartner inni i gynhyrchu ffilm dan arweiniad y plant. Mae’r cynnyrch gorffenedig, a ffilmiwyd gan aelodau ar draws y ddwy wlad, yn tynnu sylw at y llawenydd y mae chwarae’n ei roi i blant. Mae’n ein hatgoffa, lle bynnag mae plant eu bod nhw’n gwerthfawrogi chwarae’n fawr ac angen chwarae… bob dydd.’

Meddai Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru:

‘Bydd y rhan fwyaf o blant yn yr ysgol heddiw, felly rydym yn annog pob ysgol i ddewis chwarae drwy sicrhau bod gan bob plentyn ddigonedd o amser i chwarae yn ystod y diwrnod ysgol, ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae, a phob dydd. Mae gan ysgolion yng Nghymru ran fawr i’w chwarae wrth hyrwyddo’r hawl i blant ac arddegwyr chwarae. Ac eleni, fel rhan o’n gwaith rhyngwladol, mae’n wych bod yn gweithio gydag IPA Cymru Wales ac IPA Japan i ddathlu chwarae plant ac arddangos llawenydd chwarae mewn amrywiaeth o leoedd yn y ddwy wlad, bob dydd. Diolch yn fawr i’r holl blant yng Nghymru a Japan sydd wedi cymryd rhan yn ein ffilm fer.’

Mae Llywydd yr International Play Association (IPA), Robyn Monro Miller AM, wedi rhannu neges fideo yn galw ar bawb i nid yn unig ddathlu chwarae, ond i fyfyrio ar y rhwystrau i chwarae yn ein cymunedau, ac i weithio gyda’n gilydd fel bod gan bob plentyn yr amser, y lle a’r cyfle i chwarae, bob dydd.

Cymryd rhan

‘Dyw hi ddim yn rhy hwyr i gymryd rhan yn Niwrnod Rhyngwladol Chwarae heddiw. I helpu i wneud y diwrnod mor chwareus a phosibl, rydym wedi cynhyrchu rhestr o awgrymiadau anhygoel ar gyfer dathlu Diwrnod Rhyngwladol Chwarae mewn ysgolion (sydd hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer lleoliadau eraill) ac awgrymiadau anhygoel ar gyfer rhieni.

Rydym wedi gweithio gyda’n darlunydd i greu poster newydd o ddathlu hawl plant i chwarae – ar Ddiwrnod Rhyngwladol Chwarae a phob dydd. Rydym wedi cynhyrchu’r poster i atgoffa pawb pa mor bwysig yw chwarae i bob plentyn.

Rhannwch eich dathliadau a’ch myfyrdodau gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #DiwrnodChwaraeRhyngwladol a #DewisChwarae.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors