Cym | Eng

Newyddion

Datblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned mewn Ysgolion Bro

Date

04.10.2023

Category

Newyddion

Archwiliwch

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau atodol i’w hadnoddau Ysgolion Bro. Mae’n amlygu manteision datblygu ymgysylltiad cymunedol – gan gynnwys cefnogi hawl plant i chwarae.

Mae Atodiad 4: Datblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned mewn Ysgolion Bro yn esbonio sut y gall ysgolion ymgysylltu â chymunedau i gefnogi anghenion eu dysgwyr a’u teuluoedd, a bod o fudd i’r gymuned ehangach. Mae’n nodi:

‘Efallai nad oes digon o leoedd addas i chwarae mewn rhai cymunedau. Yn aml, tir yr ysgol yw’r ased awyr agored mwyaf sydd yna mewn cymuned. Mae agor tir yr ysgol i blant gael chwarae yn cyflawni rôl bwysig o ran mynd i’r afael â’r angen brys i sicrhau bod ardaloedd chwarae awyr agored ar gael i fwy o blant.’

Mae’r canllawiau yn nodi sefydliadau partneriaeth allweddol, gan gynnwys Chwarae Cymru. Mae’n cynnwys adnoddau Chwarae Cymru a all gefnogi ysgolion i agor tir eu safle.

Rhagor o wybodaeth

 

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors