Archwiliwch
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau atodol i’w hadnoddau Ysgolion Bro. Mae’n amlygu manteision datblygu ymgysylltiad cymunedol – gan gynnwys cefnogi hawl plant i chwarae.
Mae Atodiad 4: Datblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned mewn Ysgolion Bro yn esbonio sut y gall ysgolion ymgysylltu â chymunedau i gefnogi anghenion eu dysgwyr a’u teuluoedd, a bod o fudd i’r gymuned ehangach. Mae’n nodi:
‘Efallai nad oes digon o leoedd addas i chwarae mewn rhai cymunedau. Yn aml, tir yr ysgol yw’r ased awyr agored mwyaf sydd yna mewn cymuned. Mae agor tir yr ysgol i blant gael chwarae yn cyflawni rôl bwysig o ran mynd i’r afael â’r angen brys i sicrhau bod ardaloedd chwarae awyr agored ar gael i fwy o blant.’
Mae’r canllawiau yn nodi sefydliadau partneriaeth allweddol, gan gynnwys Chwarae Cymru. Mae’n cynnwys adnoddau Chwarae Cymru a all gefnogi ysgolion i agor tir eu safle.