Cym | Eng

Nodwedd

Dathlu strydoedd mwy diogel i blant

Date

18.09.2023

Category

Nodwedd

Archwiliwch

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig lle mae cerbydau’n cymysgu â cherddwyr a beicwyr.

Daeth y newid cenedlaethol i rym ar 17 Medi 2023. Mae’n golygu y bydd yn rhaid i yrwyr leihau eu cyflymder ar y rhan fwyaf o strydoedd preswyl a phrysur i gerddwyr ledled Cymru a oedd wedi’u dynodi’n 30mya yn flaenorol.

Bydd y newid yn gwneud cymunedau’n fwy diogel i blant ac oedolion fyw a mwynhau gweithgareddau fel chwarae, cerdded a beicio. Mae tystiolaeth yn dangos y bydd gostwng y terfyn cyflymder o 30mya i 20mya yn lleihau gwrthdrawiadau a difrifoldeb anafiadau.

Dwedodd Chwarae Cymru:

‘Mae Chwarae Cymru yn dathlu cyflwyniad Llywodraeth Cymru o’r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya ar gyfer ardaloedd preswyl ledled Cymru. O’r tro cyntaf i ni ofyn i blant ac arddegwyr beth sy’n eu hatal rhag chwarae yn eu cymdogaeth, mae traffig wedi bod ar ben eu rhestr. Yn yr un modd, mae rhieni wedi rhannu’r farn hon am gyflymder a nifer y ceir yn eu cymdogaethau lleol. Mae rhieni yn adrodd nad yw eu plant yn mynd allan i chwarae mor aml ag y dymunant oherwydd ofnau yn ymwneud â thraffig.

Rydym wedi eirioli ers hir y gallai mabwysiadu terfyn cyflymder 20mya ym mhob ardal breswyl gael effaith eang a chadarnhaol ar gefnogi mwy o blant i chwarae allan yn eu cymdogaeth yn amlach. Mae’r terfyn cyflymder newydd yn gydnabyddiaeth i’w groesawu o fudd unioni’r fantol rhwng gyrwyr a cherddwyr yn ein cymunedau.’

Ymgyrch 20’s Plenty For Us

Mae partneriaeth 20’s Plenty For Us o fudiadau sy’n cefnogi’r terfyn cyflymder 20mya newydd – gan gynnwys Chwarae Cymru – wedi cyhoeddi llythyr ar y cyd yn canmol y gyfraith newydd. Mae’r llythyr yn tynnu sylw at nifer y plant ac oedolion yng Nghymru a fydd yn elwa o strydoedd mwy diogel diolch i’r newid.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors