Cym | Eng

Newyddion

Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) ar-lein yn fyw ar 31 Ionawr 2023

Date

21.12.2022

Category

Newyddion

Archwiliwch

Bydd Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth (SASS) Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ar gael ar-lein ar 31 Ionawr 2023. Mae’n ofyniad cyfreithiol i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae yng Nghymru i gwblhau’r SASS. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r SASS yw 28 Chwefror 2023.

Nid yw AGC yn cynhyrchu copi papur o’r ffurflen SASS. Bydd angen cyfrif AGC Ar-lein ar ddarparwyr gofal plant er mwyn cwblhau’r SASS. Mae angen i’r rhai nad ydynt wedi creu cyfrif AGC Ar-lein eto weithredu ar frys i wneud hynny.

Bydd y SASS yn hysbysu AGC am y gwasanaeth a ddarperir a’r system sy’n cael ei defnyddio ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a roddir i blant. Bydd yn helpu AGC i gynllunio eu harolygiadau, ac i gynghori Llywodraeth Cymru am gyflwr y sector gofal plant a chwarae yng Nghymru.

Rhagor o wybodaeth

Generic selectors
Exact matches only
Search in title
Search in content
Post Type Selectors