Archwiliwch
Mae 2025 yn nodi 20fed pen-blwydd yr Egwyddorion Gwaith Chwarae. Fe’u datblygwyd gan Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae, a sefydlwyd gan Chwarae Cymru, mewn ymgynghoriad â sector gwaith chwarae’r DU a’u mabwysiadu yn 2005.
Mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn sefydlu’r fframwaith proffesiynol a moesegol ar gyfer gwaith chwarae ac, o’r herwydd, mae rhaid eu hystyried fel cyfanwaith. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n unigryw am chwarae a gwaith chwarae, ac yn darparu’r persbectif gwaith chwarae ar gyfer gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
Mae Chwarae Cymru wedi comisiynu Tîm Datblygiad Plentyndod a Gwaith Chwarae Prifysgol Leeds Beckett, i gynnal arolwg ar sut a ble y defnyddir yr Egwyddorion Gwaith Chwarae. Bydd hyn yn golygu holi’r sector gwaith chwarae’n genedlaethol ac yn rhyngwladol, i ddynodi:
- sefydliadau a rhanddeiliaid sydd wedi mabwysiadu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae neu sy’n defnyddio’r Egwyddorion Gwaith Chwarae i hysbysu eu gwaith
- sefydliadau sydd wedi addasu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae er mwyn eu defnyddio yn eu lleoliad(au) priodol
- sefydliadau sydd wedi mabwysiadu ffurfiau amgen o egwyddorion canllaw ar gyfer gwaith chwarae.
Mae’r ymchwil hwn wedi ei ddylunio i ddysgu pa mor eang ac ym mha leoliadau y mae’r Egwyddorion Gwaith Chwarae wedi eu mabwysiadu 20 mlynedd ers iddynt gael eu dyfeisio gyntaf.
Mae’r gwaith ymchwil yma wedi ei gymeradwyo gan Grŵp Craffu’r Egwyddorion Gwaith Chwarae sy’n dal yr Egwyddorion Gwaith Chwarae mewn ymddiriedolaeth ar ran y sector.
Bydd yr arolwg ar gael o ddechrau mis Awst tan ddiwedd mis Rhagfyr 2025. Rydym yn awyddus iddo gael ei ddosbarthu mor eang â phosibl, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn gofyn i unrhyw un sydd ag unrhyw rôl neu gyfrifoldeb am hwyluso chwarae ar gyfer plant mewn lleoliad wedi ei staffio, i gwblhau’r holiadur hwn.
Ydych chi’n cynrychioli sefydliad sydd â chysylltiadau ar draws y gweithlu plant allai fod yn defnyddio’r Egwyddorion Gwaith Chwarae yn eu gwaith? Allech chi helpu i hyrwyddo’r arolwg? Os felly, e-bostiwch y Tîm Datblygiad Plentyndod a Gwaith Chwarae.